Croeso

Mae Parc Hamdden Plassey enwog wedi'i leoli mewn 247 erw o goedwigoedd godidog yn Nyffrn Dyfrdwy, yn agos i bentrefi prydferth Overton a Bangor-on-Dee. O dan berchnogaeth breifat ers dros 40 o flynyddoedd, mae tir ac adeiladau'r hen fferm llaeth wedi'i ddatblygu gan y teulu Brookshaw yn Barc Hamdden.
Mae ei gyfleusterau amrywiol yn cynnwys Parc Carafan Teithio uchel ei glod, sydd a phwll nofio mewnol wedi'i gynhesu, ardal chwarae antur plant, adeilad cyfleusterau ty bach a chawod modern a nifer o mesydd chwarae gan gynnwys gwasanaethau llawn.
Mae canolfan Plassey yn gatref hefyd i Ganolfan Grefft, gyda tua phum ar hugain o fusnesau: bwticiau, crefftiau llaw, stiwdio harddwch, gof traddodiadol a chyflenwyr marchogaeth. Mae'r cyn stabl bellach yn gatref i Siop Goffi ac mae bwyty trwyddedig yn cynnig prydau bwyd blasus i westeion ac i ymwelwyr i'r Ganolfan Grefft. Y mae Canolfan Arddio a chatref i Fragdy annibyniol mwyaf blaenllaw Cymru, Bragdy Plassey.
Ar gyfer golffwyr brwdfrydig, y mae Cwrs Golff 9 twll (4,961 canllath, Par 66) sydd wedi'i sefydlu mewn tiroedd prydferth yng nghanol Parc Hamdden Plassey. Yn aelod o Undeb Sir Dinbych ac Undeb Gollf Cymru, mae'r Parc yn cynnig her o dyllau o safon i bawb eu mwynhau yn ogystal a Thy Clwb cyfforddus er mwyn ymlacio ar ol y gem.
Sitemap | Accessibility | Terms & Conditions
The Plassey Leisure Park, Eyton, Wrexham LL13 0SP
website © 2001-2013 visual foundry











